Lleoliad: Hybrid - Ystafell Bwyllgora 5
Tŷ Hywel a fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023
Amser:
09.30 -
12.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13814
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Jack Sargeant AS (yn lle Rhianon Passmore AS) |
Tystion: |
Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Andrew Jeffreys, Dirprwy Gyfarwyddwr, Buddsoddi Cyfalaf Strategol, Llywodraeth Cymru Gawain Evans, Llywodraeth Cymru Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad Michael Kay, Llywodraeth Cymru Mathew Xerri, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Leanne Hatcher (Ail Glerc) Cerian Jones (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Martin Jennings (Ymchwilydd) Christian Tipples (Ymchwilydd) Božo Lugonja (Ymchwilydd) Yr Athro Ailsa Henderson (Cynghorwr Arbenigol) |
Cofrestru (09.00-09.15)
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Rhianon Passmore AS.
1.3 Roedd Jack Sargeant AS yn dirprwyo ar ran Rhianon Passmore.
2 Papur(au) i’w nodi
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Papur i’w nodi 1 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) - 3 Tachwedd 2023
2.2 Papur i’w nodi 2 – Llythyr oddi wrth y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - 9 Tachwedd 2023
2.3 Papur i’w nodi 3 - Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor ar Graffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25
2.4 Papur i’w nodi 4 - Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at Gadeirydd y Pwyllgor Biliau Diwygio. Cwestiynau dilynol ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) - 8 Tachwedd 2023
2.5 Papur i’w nodi 5 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd: Diweddariad ar brisiad tair blynedd Pensiwn y Gwasanaeth Sifil - 13 Tachwedd 2023
3 Diweddariad ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn 2023-24: Sesiwn dystiolaeth
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn 2023-24 gan Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth Cymru; a Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid, Llywodraeth Cymru.
3.2 Cytunodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i:
· ddarparu nodyn ar y weithdrefn ar gyfer newid y Grant Cynnal Refeniw (RSG) o fewn blwyddyn ariannol, ac ynghylch a yw deddfwriaeth sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y weithdrefn hon.
· ofyn i Weinidog y Gymraeg ac Addysg am nodyn ar y fformiwla ar gyfer dyrannu cyllid i ysgolion uwchradd, ac ar yr honiad y gall ysgolion o faint tebyg i’w gilydd weld gwahaniaeth amlwg yn eu dyraniad cyllid.
Egwyl
4 Goblygiadau Ariannol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Sesiwn dystiolaeth
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar oblygiadau ariannol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) gan Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad; Michael Kay, Uwch Swyddog Cyfrifol y Bil – Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Etholiadau; a Mathew Xerri, Pennaeth Polisi Etholiadau, yr Is-adran Etholiadau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o’r cyfarfod ar 13 Rhagfyr.
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Goblygiadau Ariannol Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru): Trafod y dystiolaeth
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
7 Diweddariad ar sefyllfa ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn 2023-24: Trafod y dystiolaeth
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.
8 Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau): Papur ar y materion allweddol
8.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion allweddol ar Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
9 Gwaith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru: Trafod yr adroddiad drafft
9.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.
10 Craffu Blynyddol ar Waith Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru: Trafod yr adroddiad drafft
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytuno arno.